2 Ie, lili ymhlith drainyw f'anwylyd ymysg merched.
3 Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwigyw fy nghariad ymysg y bechgyn.Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod,ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.
4 Cymerodd fi i'r gwindy,gyda baner ei gariad drosof.
5 Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,a'm hadfywio ag afalau,oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
6 Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
7 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.
8 Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.