1 Mor brydferth wyt, f'anwylyd,mor brydferth wyt!Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod,a'th wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.
2 Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifioyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.
3 Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,a'th enau yn hyfryd;y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
4 Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd,wedi ei adeiladu, rhes ar res,a mil o estylch yn crogi arno,y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.
5 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.
6 Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,fe af i'r mynydd myrr,ac i fryn y thus.