10 Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch!Y mae dy gariad yn well na gwin,ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.
11 O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl,y mae mêl a llaeth dan dy dafod,ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.
12 Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch,gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.
13 Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau,yn llawn o'r ffrwythau gorau,henna a nard,
14 nard a saffrwn, calamus a sinamon,hefyd yr holl goed thus,myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.
15 Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd bywyn ffrydio o Lebanon.
16 Deffro, O wynt y gogledd,a thyrd, O wynt y de;chwyth ar fy ngarddi wasgaru ei phersawr.Doed fy nghariad i'w ardd,a bwyta ei ffrwyth gorau.