2 Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifioyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.
3 Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,a'th enau yn hyfryd;y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
4 Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd,wedi ei adeiladu, rhes ar res,a mil o estylch yn crogi arno,y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.
5 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.
6 Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,fe af i'r mynydd myrr,ac i fryn y thus.
7 Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd;nid oes yr un brycheuyn arnat.
8 O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon,tyrd gyda mi o Lebanon;tyrd i lawr o gopa Amana,ac o ben Senir a Hermon,o ffeuau'r llewoda mynyddoedd y llewpardiaid.