5 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.
6 Cyn i awel y dydd godi,ac i'r cysgodion ddiflannu,fe af i'r mynydd myrr,ac i fryn y thus.
7 Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd;nid oes yr un brycheuyn arnat.
8 O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon,tyrd gyda mi o Lebanon;tyrd i lawr o gopa Amana,ac o ben Senir a Hermon,o ffeuau'r llewoda mynyddoedd y llewpardiaid.
9 Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon,wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad,ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.
10 Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch!Y mae dy gariad yn well na gwin,ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.
11 O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl,y mae mêl a llaeth dan dy dafod,ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.