3 Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,
4 wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.
5 Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed:“Fy Mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw”?Ac eto:“Byddaf fi yn dad iddo ef,a bydd yntau yn fab i mi.”
6 A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”
7 Am yr angylion y mae'n dweud:“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,a'i weinidogion yn fflam dân”;
8 ond am y Mab:“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
9 Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”