Hebreaid 3 BCN

Iesu'n Uwch na Moses

1 Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu,

2 a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw.

3 Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ.

4 Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.

5 Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru;

6 ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.

Gorffwysfa i Bobl Dduw

7 Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,

8 peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel,yn nydd y profi yn yr anialwch,

9 lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi,ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.

10 Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno,a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau,ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’

11 Felly tyngais yn fy nig,‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ”

12 Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw.

13 Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.

14 Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf.

15 Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.”

16 Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses?

17 Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch?

18 Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13