1 Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth.
2 Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth?
3 Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau;
4 oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5 Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud:“Ni ddymunaist aberth ac offrwm,ond paratoaist gorff i mi.
6 Poethoffrymau ac aberth dros bechod,nid ymhyfrydaist ynddynt.
7 Yna dywedais,‘Dyma fi wedi dod—y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf—i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ”
8 Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith.
9 Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail.
10 Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth.
11 Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau.
12 Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw,
13 yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed.
14 Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir.
15 Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud:
16 “Dyma'r cyfamod a wnaf â hwyar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd;rhof fy nghyfreithiau yn eu calon,ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”,
17 y mae'n ychwanegu:“A'u pechodau a'u drwgweithredoedd,ni chofiaf mohonynt byth mwy.”
18 Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach.
19 Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu,
20 ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef;
21 a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw,
22 gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân.
23 Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.
24 Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,
25 heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
26 Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach;
27 dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.
28 Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion.
29 Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw.
30 Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;ac eto:“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
31 Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.
32 Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau:
33 weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
34 Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi.
35 Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo.
36 Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd.
37 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Ymhen ennyd, ennyd bach,fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi;
38 ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd,ac os cilia'n ôl,ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.”
39 Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.