6 A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud:“A bydded i holl angylion Duw ei addoli.”
7 Am yr angylion y mae'n dweud:“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,a'i weinidogion yn fflam dân”;
8 ond am y Mab:“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.
9 Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
10 Y mae hefyd yn dweud:“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
11 Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;
12 plygi hwy fel plygu mantell,a newidir hwy fel newid dilledyn;ond tydi, yr un ydwyt,ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”