9 Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
10 Y mae hefyd yn dweud:“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.
11 Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;
12 plygi hwy fel plygu mantell,a newidir hwy fel newid dilledyn;ond tydi, yr un ydwyt,ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”
13 Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed:“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”?
14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?