18 Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at dân sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl,
19 at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio,
20 am na allent oddef y gorchymyn: “Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd â'r mynydd, rhaid ei labyddio.”
21 A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, “Y mae arnaf arswyd a chryndod.”
22 Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion
23 yn cadw gŵyl, a chynulleidfa y rhai cyntafanedig sydd â'u henwau'n ysgrifenedig yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu,
24 cyfryngwr y cyfamod newydd, ac at waed y taenellu, sydd yn llefaru'n gryfach na gwaed Abel.