6 Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod,
7 y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef “Heddiw”, gan lefaru trwy Ddafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,peidiwch â chaledu'ch calonnau.”
8 Oherwydd petai Josua wedi rhoi gorffwys iddynt, ni byddai Duw wedi sôn ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
9 Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw.
10 Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau.
11 Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod.
12 Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.