18 Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol.
19 Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.
20 Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.
21 Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho:“Tyngodd yr Arglwydd,ac nid â'n ôl ar ei air:‘Yr wyt ti'n offeiriad am byth.’ ”
22 Yn gymaint â hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach.
23 Y mae'r lleill a ddaeth yn offeiriaid yn lluosog hefyd, am fod angau yn eu rhwystro i barhau yn eu swydd;
24 ond y mae gan hwn, am ei fod yn aros am byth, offeiriadaeth na throsglwyddir mohoni.