5 Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn ôl y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt.
6 Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo.
7 A heb ddadl o gwbl, y lleiaf sy'n cael ei fendithio gan y mwyaf.
8 Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw.
9 Gellir dweud hyd yn oed fod Lefi, derbyniwr y degwm, yntau wedi talu degwm drwy Abraham,
10 oblegid yr oedd ef eisoes yn llwynau ei gyndad pan gyfarfu Melchisedec â hwnnw.
11 Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd—oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl—pa angen pellach oedd i sôn am offeiriad arall yn codi, yn ôl urdd Melchisedec ac nid yn ôl urdd Aaron?