1 Meddai Holoffernes wrthi: “Cod dy galon, wraig; paid ag ofni. Oherwydd ni wneuthum i niwed erioed i neb a welodd yn dda wasanaethu Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear.
2 Hyd yn oed yn awr, oni bai i'th bobl, trigolion yr ucheldir, fy niystyru, ni fyddwn wedi codi fy mhicell yn eu herbyn; hwy sydd wedi dwyn hyn arnynt eu hunain.
3 Ond yn awr, dywed wrthyf pam y ffoaist oddi wrthynt a dod atom ni? Oherwydd yr wyt wedi dod i le diogel. Cod dy galon; cei fyw y nos hon a rhag llaw,
4 oherwydd nid oes neb a wna niwed iti; yn hytrach, bydd pawb yn dy drin yn dda, yn union fel y maent yn trin holl weision f'arglwydd, y Brenin Nebuchadnesar.”
5 Meddai Judith wrtho: “Gwrando ar eiriau dy gaethferch; caniataer i'th lawforwyn lefaru o'th flaen; ni ddywedaf air o gelwydd wrth f'arglwydd y nos hon.
6 Os dilyni gyngor dy lawforwyn, bydd Duw yn gwarantu llwyddiant iti yn dy waith, ac ni fetha f'arglwydd yn ei amcanion.
7 Oherwydd tyngaf lw iti ar fywyd Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear, ac ar ei allu ef, yr hwn a'th anfonodd i osod trefn ar bob enaid byw; oherwydd nid pobl yn unig sydd yn ei wasanaethu ef o'th achos di, ond hefyd bydd bwystfilod y maes, anifeiliaid, ac adar yr awyr trwy dy nerth di yn byw tra pery Nebuchadnesar a'i holl dŷ.
8 Clywsom yn wir am dy ddoethineb a'th orchestion cyfrwys. Y mae'n hysbys i'r holl fyd mai ti'n unig yn yr holl deyrnas sydd dda, yn gyfoethog o ran gwybodaeth, ac yn rhyfeddol o ran medrau rhyfel.
9 Yn awr, clywsom am yr hyn a ddywedodd Achior yn ei araith yn dy gyngor di; gan i wŷr Bethulia ei arbed, fe'u hysbysodd am bopeth a ddywedodd wrthyt ti.
10 Paid, felly, f'arglwydd feistr, â diystyru ei neges; cadw hi yn dy feddwl, oherwydd y mae'n wir; oblegid ni chosbir ein cenedl, ac ni niweidir ei phobl gan y cleddyf oni fyddant yn pechu yn erbyn eu Duw.
11 Ond yn awr, nid oes rhaid i'm harglwydd wynebu rhwystr na methiant yn ei amcan, oherwydd y mae angau ar fin syrthio ar eu pennau, am i bechod eu meddiannu, a byddant felly yn cynddeiriogi eu Duw bob tro y troseddant.
12 Pan fethodd eu cyflenwad bwyd, a'r dŵr yn mynd yn brin, penderfynasant fwyta eu hanifeiliaid, a defnyddio'r holl bethau y gwaharddodd Duw yn ei gyfreithiau iddynt eu bwyta.
13 Er iddynt gysegru blaenffrwyth y gwenith a degymau'r gwin a'r olew, a'u neilltuo i'r offeiriaid sy'n gweini gerbron Duw yn Jerwsalem, ac er nad yw'n briodol i neb o'r bobl gymaint â chyffwrdd y pethau hyn â'u dwylo, y maent wedi penderfynu eu bwyta.
14 Y maent hefyd wedi anfon negeswyr i Jerwsalem, lle mae'r trigolion yn gweithredu yn yr un modd, i geisio caniatâd y senedd i wneud hyn. Yn awr dyma beth a ddigwydd:
15 pan ddaw'r caniatâd iddynt, a hwythau'n gweithredu arno, y dydd hwnnw fe'u traddodir iti i'w dinistrio.
16 Felly, pan glywais i, dy gaethferch, am hyn oll, ffoais oddi wrthynt; ac y mae Duw wedi f'anfon i gyflawni gyda thi bethau a fydd yn rhyfeddod i'r holl fyd, wedi i bawb glywed amdanynt.
17 Oherwydd y mae dy gaethferch yn wraig dduwiol, ac yn addoli Duw'r nef ddydd a nos. Ac yn awr, f'arglwydd, fe arhosaf gyda thi, ac fe â dy gaethferch allan bob nos i'r dyffryn a gweddïo ar Dduw, ac fe ddywed ef wrthyf pan fyddant wedi cyflawni eu pechodau.
18 Yna pan ddychwelaf a chyflwyno'r wybodaeth i ti, cei fynd allan gyda'th holl fyddin, ac nid oes neb ohonynt a all dy wrthsefyll.
19 Arweiniaf di drwy ganol Jwdea nes iti gyrraedd yn agos i Jerwsalem, a gosodaf dy orsedd yng nghanol y ddinas. Byddi yn eu harwain fel defaid heb fugail ganddynt, ac ni feiddia unrhyw gi gyfarth o'th flaen. Cefais ragwybodaeth am hyn; fe'i datguddiwyd imi, ac fe'm hanfonwyd i'w chyhoeddi i ti.”
20 Yr oedd geiriau Judith wrth fodd Holoffernes a'i holl weision. Synasant at ei doethineb hi,
21 ac meddent: “O naill gwr y ddaear i'r llall, nid oes gwraig debyg o ran prydferthwch ei gwedd nac o ran deallusrwydd ei geiriau.”
22 Meddai Holoffernes wrthi: “Gwnaeth Duw yn dda trwy dy anfon oddi wrth dy bobl er mwyn rhoi'r gallu yn ein dwylo ni, a pheri dinistr i'r rhai sydd wedi diystyru f'arglwydd.
23 Y mae dy ffurf yn brydferth a'th eiriau'n dda. Os gwnei yn ôl d'addewid, dy Dduw di fydd fy Nuw innau, a chei gymryd dy le yn nhŷ Nebuchadnesar, a dod yn enwog drwy'r holl ddaear.”