1 Pan glywodd yr Israeliaid oedd yn preswylio yn Jwdea am y cwbl a wnaeth Holoffernes, prif gadfridog Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, i'r cenhedloedd hynny, a'r modd yr anrheithiodd eu holl demlau a'u llwyr ddifodi,
2 parodd hynny iddynt ei ofni'n ddirfawr, a phryderu'n enbyd am Jerwsalem a theml yr Arglwydd eu Duw.
3 Nid oeddent ond newydd ddychwelyd o'r gaethglud, a dim ond yn ddiweddar yr oedd holl bobl Jwdea wedi eu hailuno, a'r llestri sanctaidd, yr allor a'r deml wedi eu hailgysegru ar ôl eu halogi.
4 Anfonasant neges at bob ardal yn Samaria, Cona, Bethoron, Belmain a Jericho, ac i Choba, Aisora a dyffryn Salem.
5 Wedi meddiannu copaon yr holl fryniau uchel a chadarnhau'r pentrefi oedd arnynt, rhoesant ddigon o fwyd ynghadw ar gyfer rhyfel; newydd orffen medi'r meysydd yr oeddent.
6 Ysgrifennodd Joacim yr archoffeiriad, a oedd yr adeg honno yn Jerwsalem, at drigolion Bethulia a Betomesthaim, lle sy'n wynebu ar Esdraelon, gyferbyn â'r gwastatir ger Dothan.
7 Dywedodd wrthynt am feddiannu bylchau'r mynydd-dir, oherwydd trwyddynt hwy yr oedd cael ffordd i mewn i Jwdea; a chan fod y fynedfa'n rhy gul ar gyfer mwy na dau, gellid yn hawdd rwystro'r fyddin rhag symud ymlaen.
8 Felly y gweithredodd yr Israeliaid yn ôl gorchymyn Joacim yr archoffeiriad a senedd holl bobl Israel, a oedd yn eistedd yn Jerwsalem.
9 Â thaerineb mawr llefodd pob gŵr yn Israel ar Dduw, ac ymddarostwng â thaerineb mawr.
10 Rhoesant sachliain am eu llwynau, hwy a'u gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, a phob preswylydd estron a gwas cyflog a chaethwas,
11 a syrthiodd pob gŵr o Israeliad a oedd yn byw yn Jerwsalem, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, o flaen y deml; taenasant ludw ar eu pennau a lledu eu sachlieiniau o flaen yr Arglwydd.
12 Ar ôl gwisgo'r allor hefyd â sachliain, gwaeddasant yn daer ag un llais ar Dduw Israel, iddo beidio â gadael i'w babanod gael eu dwyn yn ysbail, i'w gwragedd fynd yn anrhaith, i'w dinasoedd treftadol gael eu difodi a'u teml ei halogi er llawenydd maleisus y Cenhedloedd.
13 Gwrandawodd yr Arglwydd ar eu cri a thosturio wrth eu gorthrymder. Ymroes y bobl yn holl Jwdea a Jerwsalem i ymprydio am lawer o ddyddiau o flaen teml yr Arglwydd Hollalluog.
14 Yr oedd Joacim yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid a safai gerbron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini ar yr Arglwydd, wedi gwregysu eu llwynau â sachlieiniau, ac yn offrymu'r poethoffrwm arferol, yr addunedau a rhoddion gwirfoddol y bobl.
15 Â lludw ar eu penwisg, dalient i lefain â'u holl egni ar i'r Arglwydd ymweld â holl dŷ Israel er daioni.