1 Yna gorchmynnodd Holoffernes ei harwain hi i mewn i'r ystafell lle'r oedd ei lestri arian, ac arlwyo ger ei bron o'i ddanteithion, ac o'i win iddi ei yfed.
2 Dywedodd Judith, “Nid wyf am fwyta dim ohonynt, rhag ofn bod hynny'n drosedd; ond bydd peth o'r bwyd y deuthum ag ef gyda mi yn ddigon.”
3 Yna dywedodd Holoffernes wrthi, “Ond os palla'r hyn sydd gennyt, o ble y cawn ddim tebyg i'w roi iti? Oherwydd nid oes yn ein plith neb o'th genedl di.”
4 Atebodd Judith, “Cyn wired â'th fod yn fyw, f'arglwydd, ni fyddaf fi, dy gaethferch, wedi dibennu'r hyn sydd gennyf cyn i'r arglwydd drwy fy llaw i gyflawni ei fwriad.”
5 Arweiniodd gweision Holoffernes hi i'r babell, a chysgodd hyd ganol nos; yna cododd tua gwyliadwriaeth y bore.
6 Anfonodd neges at Holoffernes fel hyn: “Os gwêl f'arglwydd yn dda, gorchmynned ganiatáu i'th gaethferch fynd allan i weddïo.”
7 Gorchmynnodd Holoffernes nad oedd ei osgordd i'w rhwystro hi. Arhosodd hi yn y gwersyll am dri diwrnod, a phob nos byddai'n mynd allan i ddyffryn Bethula ac yn ymdrochi wrth y ffynnon ddŵr ger y gwersyll.
8 Wedi dod i fyny o'r dŵr byddai'n deisyf ar Arglwydd Dduw Israel i hyrwyddo'i chynllun i adfer plant ei bobl.
9 Byddai'n dychwelyd wedi ei phuro'i hun, ac yn aros yn y babell nes iddi gymryd pryd o fwyd gyda'r nos.
10 Ar y pedwerydd dydd, gwnaeth Holoffernes wledd i'w gaethweision ei hun, ond nid estynnodd wahoddiad i'r rhai oedd wrth eu dyletswydd.
11 Dywedodd wrth Bagoas, yr eunuch a ofalai am ei holl eiddo, “Dos yn awr a pherswadia'r Hebrëes sydd yn dy ofal i ddod atom i fwyta ac yfed gyda ni.
12 Yn wir byddai'n gywilydd inni pe baem yn caniatáu i'r fath wraig ymadael heb inni ymgyfeillachu â hi; os na allwn ei denu atom, bydd hi'n chwerthin am ein pen.”
13 Aeth Bagoas allan o ŵydd Holoffernes, a mynd at Judith a dweud: “Paid ti, ferch brydferth, â phetruso dod at f'arglwydd i'th anrhydeddu ger ei fron, i yfed gwin gyda ni mewn llawenydd, ac i fod heddiw fel un o ferched yr Asyriaid sy'n gweini yn nhŷ Nebuchadnesar.”
14 Meddai Judith wrtho: “Pwy wyf fi i wrthod f'arglwydd? Popeth fydd wrth ei fodd, fe'i gwnaf yn eiddgar, a hynny fydd fy ngorfoledd hyd ddydd fy marwolaeth.”
15 Cododd, a gwisgo amdani ei dillad gwych a holl addurniadau gwraig, ac aeth ei chaethferch a thaenu iddi ar y llawr o flaen Holoffernes y cnuau yr oedd wedi eu derbyn gan Bagoas at ei gwasanaeth bob dydd, iddi gael gorwedd arnynt i fwyta.
16 Daeth Judith i mewn a gorwedd yn ei lle. Collodd Holoffernes arno'i hun yn ei awydd amdani; cynhyrfwyd ei deimladau yn ei flys angerddol am gydorwedd â hi. Yn wir, o'r dydd cyntaf y gwelodd hi, yr oedd wedi bod yn aros ei gyfle i'w hudo.
17 Dywedodd Holoffernes wrthi, “Yf yn awr, rwy'n erfyn arnat, a bydd lawen gyda ni.”
18 Atebodd Judith: “Yn wir, f'arglwydd, mi yfaf, oherwydd heddiw yw'r diwrnod mwyaf gogoneddus yn fy mywyd er dydd fy ngeni.”
19 Cymerodd y bwyd yr oedd ei llawforwyn wedi ei baratoi, a bwyta ac yfed o'i flaen ef.
20 Llonnwyd Holoffernes ganddi, ac yfodd lawer gormod o win, mwy nag yr yfodd erioed mewn un diwrnod er dydd ei eni ef.