1 Pan ddistawodd dwndwr y bobl oedd o amgylch y cyngor, dywedodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, wrth Achior yng ngŵydd yr holl estroniaid, ac wrth holl bobl Moab,
2 “A phwy wyt ti, Achior, ti a'th filwyr cyflog o Effraim, i broffwydo yn ein mysg fel y gwnaethost heddiw, a'n gwahardd rhag rhyfela yn erbyn cenedl Israel am y byddai eu Duw yn eu hamddiffyn? Pwy sydd Dduw ond Nebuchadnesar?
3 Pan enfyn ef ei lu nerthol, fe'u hysguba'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear, ac ni chânt waredigaeth gan eu Duw. Ond nyni, gweision Nebuchadnesar ydym; fe'u darostyngwn hwy fel un gŵr, ac ni ddaliant eu tir o flaen ein gwŷr meirch;
4 byddwn yn eu difa'n llwyr. Bydd eu mynyddoedd yn feddw ar eu gwaed, a'u gwastadeddau yn llawn o'u cyrff. Ni allant sefyll yn ein herbyn, ond fe'u llwyr ddifethir, medd y Brenin Nebuchadnesar, arglwydd yr holl ddaear. Y mae ef wedi llefaru, ac ni phrofir yn ofer yr un o'r geiriau a lefarodd ef.
5 Ond amdanat ti, Achior, ti was cyflog Ammon, yn dy anwiredd y lleferaist ti y geiriau hyn heddiw; ni chei weld fy wyneb eto, o'r dydd hwn nes i mi ddial ar hiliogaeth y ffoaduriaid hynny o'r Aifft.
6 Ond pan ddychwelaf, caiff cleddyfau fy milwyr a gwaywffyn fy ngosgordd dy drywanu drwy dy ystlysau, ac fe syrthi dithau ymhlith eu clwyfedigion.
7 Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,
8 ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.
9 Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”
10 Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.
11 Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.
12 Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.
13 Llithrasant hwy dan gysgod y mynydd, a chlymu Achior, ac wedi ei daflu i lawr, ei adael yn gorwedd wrth droed y mynydd, a dychwelyd at eu harglwydd.
14 Pan ddaeth yr Israeliaid i lawr o'u tref a'i ddarganfod yno, datodasant ei rwymau a mynd ag ef i Bethulia a'i osod gerbron y rhai oedd yn llywodraethwyr eu tref
15 yr adeg honno, sef Osias fab Micha, o lwyth Simeon, Chabris fab Gothoniel, a Charmis fab Melchiel.
16 A dyma hwy'n gwysio holl henuriaid y dref i gyfarfod, a brysiodd yr holl wŷr ifainc a'r gwragedd i'r cyfarfod. Dygwyd Achior gerbron yr holl bobl, a gofynnodd Osias iddo beth oedd wedi digwydd.
17 Atebodd yntau trwy adrodd hanes cyngor Holoffernes, yr holl bethau a ddywedodd ef ei hun gerbronllywodraethwyr Asyria, a phopeth a ddywedodd Holoffernes mewn bygwth ymffrostgar yn erbyn Israel.
18 Yna syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad, a gweiddi'n uchel ar Dduw,
19 “Arglwydd Dduw y nefoedd, gwêl eu balchder; tosturia wrth ddarostyngiad ein cenedl, a dangos heddiw dy ffafr i'th bobl sanctaidd.”
20 Yna rhoesant eu cymeradwyaeth i Achior, a'i ganmol yn fawr.
21 Cymerodd Osias ef o'r cyfarfod i'w dŷ ei hun, a gwnaeth wledd i'r henuriaid; a thrwy'r holl noson honno buont yn galw ar Dduw Israel am ei gymorth.