Judith 9 BCND

Gweddi Judith

1 Yna syrthiodd Judith ar ei hwyneb, taenellodd ludw ar ei phen, a datgelu'r sachliain a wisgai. Ac ar adeg offrymu'r arogldarth hwyrol yn nhŷ Dduw yn Jerwsalem, galwodd Judith â llais uchel ar yr Arglwydd, a dweud:

2 “O Arglwydd, Duw fy nghyndad Simeon, rhoddaist yn ei law ef gleddyf i ddial ar yr estroniaid hynny a dreisiodd forwyn a'i difwyno; noethasant ei chluniau a'i chywilyddio, a halogi ei chroth a'i gwaradwyddo. Er iti ddweud, ‘Ni chaiff hyn fod’, fe'i gwnaethant.

3 Am hynny, traddodaist eu llywodraethwyr i'w lladd, a thraddodi i'r gwaed eu gwely, a wridai am y ferch a dwyllwyd; trewaist gaethweision ynghyd â'u harglwyddi, a'r arglwyddi ar eu gorseddau.

4 Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.

5 Oherwydd ti a wnaeth y pethau hynny, a'r pethau a fu o'u blaen a'r pethau a'u dilynodd; ti a fwriadodd yr hyn sy'n digwydd yn awr a'r hyn sydd i ddod.

6 Y mae'r pethau a gynlluniaist ti yma wrth law yn dweud, ‘Dyma ni.’ Oherwydd parod yw dy holl ffyrdd, a rhagwybodaeth sy'n llywio dy farn.

7 Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.

8 Rhwyga di eu cryfder yn dy nerth, a dryllia eu cadernid yn dy lid. Oherwydd eu bwriad yw halogi dy deml, difwyno'r tabernacl sy'n drigfan i'th enw gogoneddus, a bwrw i lawr â chleddyf gorn dy allor.

9 Edrych ar eu balchder, tywallt dy lid ar eu pennau, a rho i mi sy'n weddw law nerthol i gyflawni fy mwriad.

10 Trwy dwyll fy ngwefusau taro'r caethwas gyda'r tywysog a'r tywysog gyda'i was; dryllia eu balchder trwy law benyw.

11 Oherwydd nid mewn lliaws y mae dy nerth di, na'th allu llywodraethol mewn rhai cedyrn; Duw'r gostyngedig ydwyt, cymorth yr isel, cynhaliwr y gwan, amddiffynnydd y diymadferth a gwaredwr y diobaith.

12 Yn awr, O Dduw fy hynafiaidd, a Duw treftadaeth Israel, llywodraethwr nefoedd a daear, creawdwr y dyfroedd a brenin yr holl greadigaeth, gwrando di fy ngweddi daer,

13 a rho imi eiriau twyllodrus i glwyfo ac anafu'r rhain sydd wedi cynllunio'r fath greulonder yn erbyn dy gyfamod, a'th deml sanctaidd, a Mynydd Seion, a'r tŷ sy'n eiddo dy blant.

14 A rho i bob cenedl o'r eiddot a phob llwyth amgyffrediad i wybod mai ti sydd Dduw, y Duw hollalluog a nerthol, ac nad oes neb arall ond tydi'n amddiffynfa i genedl Israel.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16