2 Gadawyd Judith ar ei phen ei hun yn y babell, a Holoffernes wedi syrthio ar ei hyd ar ei wely; yr oedd yn frwysg gan win.
3 Dywedodd Judith wrth ei chaethferch am sefyll y tu allan i'w hystafell wely a disgwyl am ei hymadawiad, fel y byddai'n gwneud yn feunyddiol. Yr oedd wedi dweud wrthi y byddai'n mynd i'w man gweddi, ac wedi rhoi'r un neges i Bagoas.
4 Yr oedd pawb wedi mynd allan, ac nid oedd neb, neb pwysig na dinod, ar ôl yn yr ystafell. Safodd Judith wrth wely Holoffernes, a gweddïo'n ddistaw: “O Arglwydd Dduw pob gallu, edrych yn awr ar waith fy nwylo er dyrchafu Jerwsalem,
5 oherwydd dyma'r awr i gynorthwyo dy dreftadaeth a chyflawni fy nghynllun i ddryllio'r gelynion a gododd yn ein herbyn.”
6 Aeth at erchwyn y gwely, wrth ymyl pen Holoffernes, a chymryd ei gleddyf i lawr.
7 Nesaodd at y gwely a gafael yng ngwallt ei ben, a dweud, “Nertha fi, O Arglwydd Dduw Israel, y dydd hwn.”
8 Â'i holl nerth, trawodd ei wddf ddwywaith a thorri ei ben i ffwrdd.