3 Oherwydd Duw sy'n rhoi terfyn ar ryfel yw'r Arglwydd;i mewn i'w wersyll, yng nghanol ei bobl,y'm dygodd i ddiogelwch o law fy erlidwyr.
4 Daeth Asyria i lawr o fynyddoedd y gogledd;daeth â degau o filoedd o'i byddin;llanwodd eu llu enfawr y ceunentydd,a chuddiodd eu gwŷr meirch y bryniau.
5 Bygythiodd ddifa fy nhiriogaeth â thân,lladd fy ngwŷr ifainc â'r cleddyf,hyrddio fy mhlant sugno i'r ddaear,dwyn fy mabanod yn ysbail,a chymryd fy morynion yn ysglyfaeth.
6 Diddymodd yr Arglwydd Hollalluog hwytrwy law benyw.
7 Oherwydd nid trwy law gwŷr ifainc y syrthiodd eu harwr;nid meibion Titan a'i darostyngodd;nid cewri talgryf a ymosododd arno;ond Judith, merch Merari, a'i diarfogodd â thegwch ei gwedd.
8 Wedi diosg gwisg gweddwdodi ddyrchafu'r rhai gorthrymedig yn Israel,eneiniodd ei hwyneb ag ennaint,rhwymodd ei gwallt â phenwisg,a gwisgodd ŵn o liain main i'w hudo.
9 Daliodd ei sandal ei lygad,a chaethiwodd ei phrydferthwch ei galon;a dyna'r cleddyf yn syth drwy ei wddf.