6 Yr wyt i ryfela yn erbyn yr holl ranbarth gorllewinol, am i'w drigolion anufuddhau i'm gorchymyn i.
7 Dywed wrthynt am baratoi offrwm o bridd a dŵr, oherwydd yr wyf yn dod allan yn fy llid yn eu herbyn. Gorchuddiaf holl wyneb eu tir â thraed fy myddin, ac fe'u rhoddaf hwy yn ysbail i'm milwyr.
8 Bydd eu clwyfedigion yn llenwi'r ceunentydd, a bydd pob ffos ac afon yn llifo a gorlifo â chyrff;
9 a chymeraf hwy yn gaethglud i eithafoedd y ddaear.
10 A thithau, brysia i feddiannu i mi eu holl diriogaeth;
11 os ildio a wnânt i ti, gwarchod hwy drosof hyd amser eu cosbi. Ond i'r rhai sy'n anufudd paid â dangos trugaredd; traddoda hwy i gael eu lladd a'u hysbeilio trwy'r holl ranbarth a berthyn iti.
12 Ar fy mywyd ac ar holl nerth fy mrenhiniaeth y tyngaf: yr hyn a leferais, fe'i cyflawnaf â'm llaw fy hun.