1 Anfonasant genhadau ato i ymbil am heddwch, a dweud:
2 “Gweision y brenin mawr Nebuchadnesar ydym ni; gorweddwn ar ein hyd o'th flaen; gwna â ni yr hyn a fynni.
3 Ein ffermydd, ein holl dir, ein holl feysydd gwenith, ein defaid a'n gwartheg a'n holl gorlannau a'n pebyll, eiddot ti ydynt; defnyddia hwy fel y mynni.
4 Ein trefi a'u trigolion, dy gaethweision di ydynt; tyrd a'u trin hwy fel y gweli'n dda.”