18 Yna, aeth yr Edomiaid a'r Ammoniaid i fyny a gwersyllu yn y mynydd-dir gyferbyn ag Egrebel ger Chusi, ar lan ceunant Mochmur. Gwersyllodd gweddill byddin Asyria ar y gwastatir, gan orchuddio holl wyneb y tir; yr oedd eu pebyll a'u cyfreidiau yn wersyll enfawr, a hwythau'n dyrfa dra lluosog.