12 Pwy ydych chwi, ynteu, sydd wedi rhoi Duw ar ei brawf heddiw, a sefyll yn ei le ef ymhlith pobl?
13 Yn hyn o beth, onid yr Arglwydd Hollalluog a osodir ar brawf gennych? Ni ddeallwch chwi ddim am hyn byth bythoedd.
14 Ni threiddiwch byth i ddyfnder calon dyn, na dirnad ei feddyliau; sut, felly, y chwiliwch feddwl y Duw a wnaeth hyn oll, a dirnad ei feddwl a deall ei gynlluniau ef? Na, gyfeillion, peidiwch â digio'r Arglwydd ein Duw.
15 Os nad yw'n dewis ein cynorthwyo cyn pen y pum diwrnod, ganddo ef y mae'r hawl i'n hamddiffyn am gynifer o ddyddiau ag a fyn, neu i'n dinistrio gerbron ein gelynion.
16 Peidiwch â gosod amodau ar yr Arglwydd ein Duw; nid dyn mohono i'w fygwth, na mab dyn i ddwyn perswâd arno.
17 Gan hynny, wrth inni aros iddo'n hachub ni, galwn arno am ei gymorth, ac os gwêl yn dda fe wrendy ar ein cri.
18 Oherwydd ni fu yn ein hoes ni, ac ni cheir heddiw, na llwyth na theulu, na thref na dinas, ohonom ni sy'n addoli duwiau o waith llaw fel y bu yn y dyddiau gynt.