19 Dyna'r rheswm y rhoddwyd ein hynafiaid i fin y cleddyf ac i fod yn ysbail; mawr iawn fu eu cwymp o flaen ein gelynion.
20 Ond amdanom ni, nid ydym wedi cydnabod unrhyw Dduw arall ond ef; dyma sail ein gobaith na fydd iddo ein dirmygu ni na neb o'n cenedl.
21 Oherwydd o'n dal ni fel hyn, fe ddelir holl wlad Jwdea; anrheithir ein cysegrleoedd, a gelwir arnom i ateb dros eu halogi hwy â'n gwaed.
22 Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.
23 Nid ffafr fydd yn deillio o'n caethiwed; yn hytrach bydd yr Arglwydd ein Duw yn dwyn amarch ohono.
24 Ac yn awr, gyfeillion, rhown esiampl i'n cymrodyr, oherwydd arnom ni y mae eu heinioes yn dibynnu, ac yn ein llaw ni y saif tynged y cysegr, y deml a'r allor.
25 Ar ben hyn oll, rhown ddiolch i'r Arglwydd ein Duw, sy'n gosod prawf arnom fel y gwnaeth ar ein hynafiaid.