22 Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.
23 Nid ffafr fydd yn deillio o'n caethiwed; yn hytrach bydd yr Arglwydd ein Duw yn dwyn amarch ohono.
24 Ac yn awr, gyfeillion, rhown esiampl i'n cymrodyr, oherwydd arnom ni y mae eu heinioes yn dibynnu, ac yn ein llaw ni y saif tynged y cysegr, y deml a'r allor.
25 Ar ben hyn oll, rhown ddiolch i'r Arglwydd ein Duw, sy'n gosod prawf arnom fel y gwnaeth ar ein hynafiaid.
26 Cofiwch yr hyn a wnaeth i Abraham, y modd y profodd Isaac, a'r hyn a ddigwyddodd i Jacob yn rhanbarth Syria o Mesopotamia tra oedd yn bugeilio defaid Laban, brawd ei fam.
27 Ni phrofodd ni â thân fel y profodd hwy, i chwilio'u calonnau; nid yw ef wedi dial arnom ni; er mwyn eu disgyblu y mae'r Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n nesáu ato.”
28 “O galon ddiffuant,” meddai Osias wrthi, “yr wyt wedi llefaru'r cwbl a ddywedaist, ac nid oes neb a all wrthsefyll dy eiriau.