4 Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.
5 Oherwydd ti a wnaeth y pethau hynny, a'r pethau a fu o'u blaen a'r pethau a'u dilynodd; ti a fwriadodd yr hyn sy'n digwydd yn awr a'r hyn sydd i ddod.
6 Y mae'r pethau a gynlluniaist ti yma wrth law yn dweud, ‘Dyma ni.’ Oherwydd parod yw dy holl ffyrdd, a rhagwybodaeth sy'n llywio dy farn.
7 Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.
8 Rhwyga di eu cryfder yn dy nerth, a dryllia eu cadernid yn dy lid. Oherwydd eu bwriad yw halogi dy deml, difwyno'r tabernacl sy'n drigfan i'th enw gogoneddus, a bwrw i lawr â chleddyf gorn dy allor.
9 Edrych ar eu balchder, tywallt dy lid ar eu pennau, a rho i mi sy'n weddw law nerthol i gyflawni fy mwriad.
10 Trwy dwyll fy ngwefusau taro'r caethwas gyda'r tywysog a'r tywysog gyda'i was; dryllia eu balchder trwy law benyw.