39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian.
40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Felly y bydd dy farn di; ti a'i rhoddaist ar lawr.
41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a'i hadnabu ef, mai o'r proffwydi yr oedd efe.
42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti ollwng ymaith o'th law y gŵr a nodais i'w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a'th bobl di yn lle ei bobl ef.
43 A brenin Israel a aeth i'w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria.