14 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a'u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda'r brenin.
15 A'r brenin a wnaeth yr arian a'r aur yn Jerwsalem cyn amled â'r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir.
16 A meirch a ddygid i Solomon o'r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.
17 Canys deuent i fyny, a dygent o'r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian; a march am gant a hanner; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt.