2 Cronicl 8 BWM

1 Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun,

2 Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno.

3 A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a'i gorchfygodd hi.

4 Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath.

5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau;

6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a'r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.

7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel;

8 Ond o'u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Solomon a'u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn.

9 Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a'i wŷr meirch ef.

10 A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y bobl.

11 A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i'r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo.

12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i'r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth;

13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a'r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a'r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw.

15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau.

16 A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd.

17 Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom.

18 A Hiram a anfonodd gyda'i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a'u dygasant i'r brenin Solomon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36