1 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.
2 Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,
3 Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd,
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.
5 A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.
6 Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,
7 A Bethsur, a Socho, ac Adulam,
8 A Gath, a Maresa, a Siff,
9 Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,
10 A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.
11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.
12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a'u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.
13 A'r offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o'u holl derfynau.
14 Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a'u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a'i feibion a'u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i'r Arglwydd.
15 Ac efe a osododd iddo offeiriaid i'r uchelfeydd, ac i'r cythreuliaid, ac i'r lloi a wnaethai efe.
16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant i Jerwsalem, i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau.
17 Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.
18 A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse:
19 A hi a ymddûg iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham.
20 Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddûg iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.
21 A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.
22 A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.
23 Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o'i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.