2 Cronicl 13 BWM

1 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda.

2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam.

3 Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.

4 Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi;

5 Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i'w feibion, trwy gyfamod halen?

6 Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd.

7 Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i'w herbyn hwynt.

8 Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.

9 Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a'r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i'w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i'r rhai nid ydynt dduwiau.

10 Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a'r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron, a'r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.

11 Ac y maent hwy yn llosgi i'r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a'r canhwyllbren aur a'i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw; ond chwi a'i gwrthodasoch ef.

12 Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a'i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.

13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o'u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a'r cynllwyn o'r tu ôl iddynt.

14 A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a'r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn.

15 A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda.

16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a'u rhoddodd hwynt i'w llaw hwynt.

17 Ac Abeia a'i bobl a'u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig.

18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau.

19 Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a'i phentrefi, a Jesana a'i phentrefi, ac Effraim a'i phentrefi.

20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr Arglwydd a'i trawodd ef, fel y bu efe farw.

21 Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched.

22 A'r rhan arall o hanes Abeia, a'i ffyrdd ef, a'i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36