2 Cronicl 4 BWM

1 Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

2 Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.

3 A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua'r gogledd, a thri yn edrych tua'r gorllewin, a thri yn edrych tua'r deau, a thri yn edrych tua'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

5 A'i dewder oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

6 Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.

7 Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy.

8 Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a'r cyntedd mawr, a dorau i'r cynteddoedd; a'u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.

10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua'r dwyrain, ar gyfer y deau.

11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw:

12 Y ddwy golofn, a'r cnapiau, a'r coronau ar ben y ddwy golofn, a'r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:

13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.

14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;

15 Un môr, a deuddeg o ychen dano:

16 Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r cigweiniau, a'u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i'r brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd, o bres gloyw.

17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.

18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw, a'r allor aur, a'r byrddau oedd â'r bara gosod arnynt,

20 A'r canwyllbrennau, a'u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;

21 Y blodau hefyd, a'r lampau, a'r gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.

22 Y saltringau hefyd, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a'i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36