2 Cronicl 15 BWM

1 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.

2 Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a'i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a'ch gwrthyd chwithau.

3 Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.

4 Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, a'i geisio ef, efe a geid ganddynt.

5 Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i'r hwn oedd yn myned allan, nac i'r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.

6 A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

7 Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i'ch gwaith chwi.

8 A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o'r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd.

9 Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a'r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef.

10 Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11 A hwy a aberthasant i'r Arglwydd y dwthwn hwnnw, o'r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid.

12 A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, â'u holl galon, ac â'u holl enaid:

13 A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

14 A hwy a dyngasant i'r Arglwydd â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15 A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys â'u holl galon y tyngasent, ac â'u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a'i cawsant ef: a'r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16 A'r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a'i drylliodd, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.

17 Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

18 Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad, a'r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36