7 Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti.
8 A dywedodd Solomon wrth Dduw, Ti a wnaethost fawr drugaredd â'm tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef.
9 Yn awr, O Arglwydd Dduw, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear.
10 Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?
11 A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y'th osodais yn frenin arnynt:
12 Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o'th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.
13 A Solomon a ddaeth o'r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi gerbron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel.