1 A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo ef yn frenin.
2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o'r Aifft.
3 Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,
4 Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a'th wasanaethwn di.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A'r bobl a aethant ymaith.
6 A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn?
7 A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i'r bobl yma, a'u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth.