1 Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth, a'i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gydag ef.
2 Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd,
3 A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o'r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a'r Ethiopiaid.
4 Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.
5 Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a'm gwrthodasoch i, am hynny myfi a'ch gadewais chwi yn llaw Sisac.
6 Yna tywysogion Israel a'r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd.
7 A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.