13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones.
14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd.
15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol.
16 A Rehoboam a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.