4 Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.
5 Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a'm gwrthodasoch i, am hynny myfi a'ch gadewais chwi yn llaw Sisac.
6 Yna tywysogion Israel a'r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd.
7 A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.
8 Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd.
9 Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon.
10 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a'u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.