8 Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd.
9 Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon.
10 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a'u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.
11 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, gwŷr y gard a ddeuent ac a'u cyrchent hwy, ac a'u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard.
12 A phan ymostyngodd efe, llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda.
13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones.
14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatôdd efe ei galon i geisio yr Arglwydd.