1 Felly Abeia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.
2 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.
3 Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a'r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:
4 Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a'r gorchymyn.