1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.
2 Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a'i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,
3 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a'th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.
4 A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.
5 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.
6 Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.
7 Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o'th law di.