11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a'r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
12 Ac Asa a glafychodd o'i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad, nes i'w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.
13 Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad.
14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn.