7 Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o'th law di.
8 Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd, efe a'u rhoddodd hwynt yn dy law di.
9 Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear, i'w ddangos ei hun yn gryf gyda'r rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i'th erbyn o hyn allan.
10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a'i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o'r bobl y pryd hwnnw.
11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a'r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
12 Ac Asa a glafychodd o'i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad, nes i'w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.
13 Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad.