1 A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.
2 Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef.
3 A'r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd â Baalim:
4 Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.
5 Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.
6 Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a'r llwyni allan o Jwda.