11 A rhai o'r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.
12 Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau.
13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem.
14 A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol.
15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.
16 A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o'i wirfodd a ymroddodd i'r Arglwydd; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.
17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau.