1 A SOLOMON a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun.
2 A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant.
3 A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna â minnau.
4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw, i'w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i'r gwastadol osodiad bara, a'r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr Arglwydd ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.
5 A'r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na'r holl dduwiau.
6 A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?