1 Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel.
2 Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o'r tu hwnt i'r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi.
3 A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
4 A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio'r Arglwydd.
5 A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd,