6 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
7 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i'w feibion byth.
8 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun.
9 A Jehoram a aeth allan, a'i dywysogion, a'i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.
10 Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn: a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau.
11 Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny.
12 A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda;